Empire of the Sun (ffilm)

Empire of the Sun
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
Lliw/iaulliw Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1987, 10 Mawrth 1988 Edit this on Wikidata
Genreffilm ryfel, ffilm glasoed, ffilm ddrama, ffilm a seiliwyd ar nofel Edit this on Wikidata
Prif bwncPacific War, awyrennu, yr Ail Ryfel Byd Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithShanghai Edit this on Wikidata
Hyd154 munud, 152 munud Edit this on Wikidata
CyfarwyddwrSteven Spielberg Edit this on Wikidata
Cynhyrchydd/wyrKathleen Kennedy, Frank Marshall, Steven Spielberg, Robert Shapiro Edit this on Wikidata
Cwmni cynhyrchuAmblin Entertainment Edit this on Wikidata
CyfansoddwrJohn Williams Edit this on Wikidata
DosbarthyddWarner Bros., Netflix Edit this on Wikidata
Iaith wreiddiolSaesneg Edit this on Wikidata
SinematograffyddAllen Daviau Edit this on Wikidata

Ffilm ryfel Saesneg yw Empire of the Sun (1987). Cyfarwyddwyd gan gan Steven Spielberg, ac mae'n serennu Christian Bale, John Malkovich, a Miranda Richardson. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw gan J.G. Ballard a gyhoeddwyd yn 1984; addaswyd ar gyfer y sgrîn gan Tom Stoppard a Menno Meyjes. Adrodda Empire of the Sun hanes Jamie "Jim" Graham, sydd yn datlygu fel unigolyn o fyw gyda theulu Prydeinig cefnog yn Shanghai i fod yn garcharor rhyfel yng Nghanolfan Ymgynnull Sifiliaid Lungha, gwersyll Siapaneaidd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn wreiddiol roedd Harold Becker a David Lean i fod cyfarwyddo'r ffilm cyn i Spielberg gymryd yr awenau. Roedd gan Spielberg ddiddordeb mewn cyfarwyddo Empire of the Sun oherwydd ei gysylltiad personol i ffilmiau Lean ac i'r thema o'r Ail Ryfel Byd. Ystyria Spielberg y ffilm hon fel ei waith mwyaf dwys ar "golli diniweidrwydd". Deliai nofel Ballard gyda'r thema o ddewrder ond unwaith eto creodd Spielberg ffilm a oedd yn ymdrin â phlant yn cael eu gwahanu o'u rhieni. Fodd bynnag, nid oedd y ffilm yn llwyddiant enfawr yn y theatrau er iddi gael ei chanmol yn fawr gan y beirniaid.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy